Mae awyren filwrol o Rwsia a oedd yn cario 14 o bobol wedi diflannu wrth deithio uwchben arfordir Syria.
Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Moscow, fe ddiflannodd yr awyren oddi ar y radar tua 22 milltir i ffwrdd o’r arfordir tra oedd yn teithio i’r safle Rwsiaidd ger dinas Lattakia.
Mae swyddogion yn honni bod yr awyren wedi mynd ar goll wrth i bedair awyren o Israel ymosod ar yr ardal.
Maen nhw hefyd yn honni bod taflegryn wedi cael ei danio o long Ffrengig yn yr ardal tua’r un adeg.
Dyw Rwsia ddim wedi cyhuddo neb o saethu’r awyren i lawr.