Mae’r Unol Daleithiau wedi cyflwyno cyfres newydd o dollau ar werth $200bn (£150bn) o nwyddau Tseinia, gan ddwysáu’r rhyfel masnach rhwng y ddwy wlad.

Mae gan Tseinia a’r Unol Daleithiau economïau mwya’r byd, ac mae’r tollau ar nwyddau ei gilydd wedi codi prisiau ar bethau fel bagiau ac olwynion beic.

Bydd y tollau newydd yn cychwyn yr wythnos nesa’ ar 10%, cyn codi i 25% ddechrau’r flwyddyn nesa’.

Brwydr hir

Fe gyhoeddodd Donald Trump y tollau newydd neithiwr (dydd Llun, Medi 17), ac mae disgwyl i’r cam hwn waethygu’r berthynas rhwng yr Unol Daleithiau a Tseinia.

Mae’r Arlywydd eisoes wedi gosod tollau 25% ar werth 50bn doler (£38bn) o nwyddau Tseinia.

Fe ymatebod Tseinia i hynny trwy osod tollau ar rai bwydydd o’r Unol Daleithiau, gan dargedu cefnogwyr Donald Trump yn y sector amaethyddol.

Ond mae Beijing wedi rhybuddio y byddan nhw’n cyflwyno rhagor o dollau pe bai’r Unol Daleithiau’n parhau â’r rhyfel masnach.