Mae arweinwyr Twrci a Rwsia wedi cyfarfod i archwilio a oes ateb diplomyddol i’r helyntion yn Syria.

Talaith Idlib yw cadarnle diwethaf y gwrthryfelwyr yn Syria, ac mae Twrci – sydd yn rhannu ffin â’r dalaith honno – yn awyddus i atal rhagor o drais yno.

Mae Rwsia yn credu bod gan lywodraeth Syria yr hawl i gipio’r dalaith, gan fod Idlib yn lloches i frawychwyr, medden nhw.

A thros wythnos yn ôl, fe alwod Rwsia ac Iran am gynnal ymosodiad yno.

Mae Twrci wedi apelio ar y ddwy wlad i ddod o hyd i ateb diplomyddol, ac wedi anfon milwyr i’r ardal er mwyn rhwystro ymosodia.

Fe gynhaliodd arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, ac arlywydd Twrci, Tayyip Erdogan, eu cyfarfod yn ninas Sochi, Rwsia.