Roedd y taflegryn a wnaeth saethu’r awyren o Malaysia Airlines yn 2014 yn eiddo i fyddin yr Wcráin, ac nid Rwsia, yn ôl swyddogion ym Moscow.

Fe gafodd yr awyren ei saethu i lawr tra oedd yn hedfan tros ddwyrain yr Wcráin ym mis Gorffennaf 2014, gan ladd pob un o’r 298 o bobol a oedd ar ei bwrdd.

Fe gyhoeddodd yr Iseldiroedd ac Awstralia ym mis Mai eleni eu bod nhw’n credu bod y taflegryn Sofietaidd wedi cael ei gludo i’r Wcráin o uned filwrol yn ninas Kursk, Rwsia.

Ond mae llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn ym Moscow yn dweud bod dogfennau’n dangos bod y taflegryn wedi cael ei gludo i uned filwrol yn 1986.

Dywedodd hefyd nad ydyn nhw’n gwybod os gwnaeth y taflegryn fyth adael yr Wcráin, a oedd ar y pryd yn rhan o’r Undeb Sofietaidd.