Mae cariad un o aelodau’r band Rwsiaidd Pussy Riot yn honni ei fod e wedi cael ei wenwyno.

Mae Pyotr Verzilov yn cael ei gludo i’r Almaen am driniaeth, ond dydy Maria Alekhina ddim wedi rhoi rhagor o fanylion am ei gyflwr ers iddo ddeffro o goma ddydd Gwener ar ôl bod mewn uned gofal dwys.

Ond mae hi’n honni iddo gael ei wenwyno am resymau gwleidyddol, ar ôl iddo fod yn un o dri a gafodd eu carcharu am redeg ar y cae yn ystod Cwpan Pêl-droed y Byd yn Rwsia ym mis Gorffennaf.

Roedden nhw’n protestio yn erbyn grym eithafol heddlu’r wlad.

Roedd amseru salwch Pyotr Verzilov yn cyd-daro â gwenwyno Sergei a Yulia Skripal yn Salisbury. Mae achosion o wenwyno yn gyffredin yn Rwsia, yn enwedig ymhlith gwrthwynebwyr yr Arlywydd Vladimir Putin a’i lywodraeth.