Mae goruchwyliwr ffiniau yn yr Unol Daleithiau wedi’i gyhuddo o bedwar achos o lofruddio.

Mae Juan David Ortiz, 35, wedi’i gyhuddo o lofruddio pedair o weithwyr rhyw, yn ogystal ag ymosod ac o ataliaeth anghyfreithlon.

Cafodd ei arestio fore heddiw ar ôl i ddynes arall lwyddo i ddianc a rhoi gwybod i’r awdurdodau am y digwyddiad.

Cafwyd hyd i Juan David Ortiz yn cuddio yn ei gerbyd mewn maes parcio y tu allan i westy yn Laredo yn nhalaith Tecsas.

Mae lle i gredu bod yr holl weithwyr rhyw wedi’u lladd ers Medi 3, a’u bod wedi’u lladd yn yr un modd, er nad yw’r manylion wedi’u cyhoeddi.

Mae ymchwiliad ar y gweill er mwyn darganfod pam iddyn nhw gael eu lladd.

Datganiad

Dywedodd asiantaeth ffiniau’r Unol Daleithiau eu bod yn cydweithio ag ymchwiliad yr awdurdodau.

Maen nhw wedi estyn eu cydymdeimlad i deuluoedd y rhai a gafodd eu lladd.

Dydy Adran Diogelwch y Cyhoedd Tecsas ddim wedi gwneud sylw.