Mae o leiaf dri o bobol wedi’u lladd ac mae chwech o bobol ar goll yn dilyn teiffŵn ar ynysoedd y Ffilipinas.
Mae lle i gredu bod dau o blant ymhlith y rhai sydd wedi marw o ganlyniad i foddi.
Mae’r gwynt a’r glaw wedi achosi tirlithriadau, gan ddifetha nifer o gartrefi wrth symud tua Tsieina.
Fe darodd yr ynysoedd yn ardal Cagayan o ynys Luzon, lle mae tirlithriadau’n gyffredin.
Mae Gweinidog Tramor Tsieina, Wang Yi wedi gohirio ymweliad â’r Ffilipinas am y tro ar ôl i 150 o deithiau awyr gael eu canslo.
Mae’r gwyntoedd wedi cyrraedd cyflymdra o hyd at 161 milltir yr awr.
Mae llywodraeth y wlad yn dweud bod bywydau pobol mewn perygl o hyd, ac mae rhybuddion mewn grym mewn deg talaith. Mae miloedd o bobol wedi’u symud i ddiogelwch.