Mae’r Iseldiroedd wedi estraddodi dau berson o Rwsia sydd wedi’u hamau fod yn ysbïwyr.

Yn ôl Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Ffederal y Swistir (FIS), ceisiodd y pâr hacio labordy Swistirol.

Mae’r safle hwnnw yn cynnal arbrofion ar ran corff sydd â chefnogaeth y Cenhedloedd Unedig – sefydliad sy’n craffu ar y defnydd o arfau cemegol.

Bu’r FIS yn cydweithio â phartneriaid yng ngwledydd Prydain a’r Iseldiroedd, a chafodd y pâr eu harestio yn sgil hynny.