Mae mam a’i phlentynwedi marw ar ôl i goeden daro’u cartref yn sgil corwynt Florence yng Ngogledd Carolina yn yr Unol Daleithiau.
Storm drofannol yw Florence erbyn hyn.
Bu farw dau o bobol eraill yn sgil y corwynt.
Cafodd dyn 78 oed ei drydanu wrth geisio cysylltu gwifrau yn y glaw, ac fe ddaeth ei deulu o hyd i’w gorff y bore canlynol.
Bu farw dyn arall ar ôl cael ei chwythu oddi ar ei draed wrth fynd i ofalu am ei gŵn hela.
Mae’r awdurdodau’n rhybuddio nad yw’r dalaith wedi gweld diwedd y tywydd garw.