Dywed  heddlu’r Almaen bod 50 o bobl wedi eu hanafu ar ol i dren daro yn erbyn car yn nwyrain y wlad.


Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y tren wedi taro yn erbyn car oedd wedi cael ei wthio ar y cledrau ar ol cael ei daro gan gar arall yn Lauterbach, rhwng Leipzig a Chemnitz. Roedd gyrrwr y car wedi llwyddo i neidio allan o’r car cyn y ddamwain, ond roedd y tren wedi methu stopio mewn pryd.

Roedd tri o gerbydau’r tren wedi dod oddiar y cledrau ac un wedi troi ar ei ochr, gan anafu naw o bobl yn ddifrifol. Roedd 40 o bobl eraill wedi cael man anafiadau. Mae rhai o’r bobl a anafwyd wedi eu cludo i’r ysbyty mewn hofrennyddion.