Y brifddinas Ankara, Twrci (Llun: Wicipedia_)
Cafodd tri o bobl eu lladd a 15 eu hanafu ar ôl ffrwydrad mewn car ym mhrifddinas Twrci.

Credir mai terfysgwyr oedd y tu ôl i’r ymosodiad.

Darganfuwyd cyrff tri o bobl mewn adeilad wrth ymyl y car a ffrwydrodd yn Ankara.

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad mewn ardal brysur iawn ac mae’n debyg bod ceir eraill wedi ffrwydro ar ôl mynd ar dân.

Mae o leia pump o’r rhai gafodd eu hanafu mewn cyflwr difrifol. Fe gawson n hw driniaeth mewn iard ysgol gerllaw cyn cael eu cludo i’r ysbyty.

Mae gwrthryfelwyr  Cwrdaidd sy’n brwydro am annibyniaeth yn ne-ddwyrain Twrci wedi cynyddu nifer yr ymosodiadau ar dargedau Twrcaidd yn ddiweddar.