Mae miloedd o Americanwyr yr Unol Daleithiau yn paratoi ar gyfer un o’r corwyntoedd mwya’ i daro arfordir dwyreiniol y wlad ers degawdau.
Mae disgwyl i Gorwynt Florence, sydd ar hyn o bryd yn storm categori pedwar, gryfhau a datblygu’n storm categori pump o fewn yr oriau nesa’.
Yn ôl rhagolygon y tywydd, fe fydd y corwynt yn cau am daleithiau Gogledd a De Carolina erbyn dydd Iau, gan daro’r ardal arfordirol yno ac achosi llifogydd a dinistr.
Mae Llywodraethwr De Carolina eisoes wedi gorchymyn pobol sy’n byw mewn ardaloedd ger y môr i ffoi am ddiogelwch, ac mae disgwyl i tua miliwn o bobol adael eu cartrefi.
Mae pobol yn Virginia a Gogledd Carolina wedi cymryd camau tebyg hefyd.