Mae beth bynnag ugain o bobol wedi’u lladd, wedi i hunanfomiwr ffrwydro’i fest yn llawn ffrwydron yng nghanol protest yn erbyn uwch swyddog heddlu yn Afghanistan.

Mae’r heddlu yn nhalaith Nangarhar yn nwyrain y wlad yn dweud fod dwsinau o bobol wedi crynhoi yn ardal Momandara er mwyn rhwystro’r fford rhwng y brifddinas, Jalalabad a’r ffin â Pacistan yn Torkham.

Roedd y bobol leol wedi dod ynghyd i wrthdystio yn erbyn prif swyddog heddiw, ac fe gawson nhw’u targedu gan yr honanfomiwr.

Dyw hi ddim yn glir os oedd yr hunanfomiwr yn deall pam oedd y protestwyr allan ar y stryd.

Does neb chwaith wedi hawlio cyfrifoldeb eto am yr ymosodiad, ond mae’r Taliban a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn gryf yn yr ardal.