Mae un o sêr y ffilm Grease, sydd â thad o Gymru, yn dioddef o ganser unwaith eto.

Dyma’r trydydd tro mewn tri degawd i Olivia Newton-John, a fydd yn 70 oed cyn diwedd y mis, dderbyn y newydd ei bod yn dioddef o’r clefyd.

Dywedodd yr actores wrth raglen newyddion Sunday Night fod doctoriaid wedi dod o hyd i lwmp ar waelod ei chefn yn 2017, a’i bod ar hyn o bryd yn “gwneud yn dda” wrth dderbyn triniaeth.

Wrth geisio lleddfu’r boen, mae’n dweud ei bod yn cymryd olew canabis, sy’n cael ei wneud o’r marijuana sy’n cael ei dyfu gan ei gŵr yn Califfornia.

Mae’n ychwanegu ei bod yn gobeithio y bydd Awstralia yn cyfreithloni’r cyffur yn y dyfodol agos.

Fe gafodd Olivia Newton-John, sy’n ferch i Brinley ‘Bryn’ Newton-John o Gaerdydd, ddiagnosis am ganser y fron yn 1992. Cafodd ddiagnosis am yr un canser eto yn 2013.