Mae rhagor o brotestiadau’n cael eu cynnal yn Rwsia yn erbyn codi’r oedran pensiwn gwladol yn y wlad.

Cafodd y protestiadau eu trefnu gan Alexei Navalny brif wrthwynebydd yr Arlywydd Vladimir Putin.

Mae Alexei Navalny yn y carchar am 30 diwrnod am ei ran mewn protest arall fis Ionawr.

Daeth y cynllun pensiwn newydd i rym ym mis Mehefin, sy’n nodi bod yr oedran pensiwn wedi’i godi i 65 i ddynion a 60 i fenywod.

Mae lle i gredu bod o leiaf 40 o bobol wedi’u harestio am eu rhan yn y brotest ddiweddaraf. Yn eu plith, mae cyfreithiwr sy’n gweithredu ar ran cronfa wrth-dwyll Alexei Navalny.

Mae pryder ymhlith pobol oedrannus na fyddan nhw’n byw’n ddigon hir i gasglu eu pensiwn dros gyfnod hir o amser, ac ymhlith y to iau fod cadw pobol mewn gwaith yn hwy yn cyfyngau ar eu cyfleoedd nhw i fentro i’r byd gwaith.