Mae’r heddlu yn Awstria wedi dod i hyd i gorff gwraig 89 oed mewn rhewgell. Mae ei nai wedi cyfaddef iddo roi ei chorff yn y rhewgell.

Yn ol llefarydd ar ran yr heddlu mae’r dyn yn honi bod ei fodryb wedi marw o achosion naturiol yn Neuhofen/Ybbs, tre tua 60 milltir i’r gorllewin o’r brifddinas, Fiena.

‘Hawlio lwfansau’

Credir bod y dyn wedi rhoi ei chorff yn y rhewgell yn hytrach na hysbysu’r awdurdodau ei bod wedi marw, fel, ei fod yn gallu parhau i hawlio ei lwfansau misol.

Mae’r heddlu yn aros am ganlyniadau archwiliad post mortem i weld a oedd na unrhywbeth amheus ynglyn â’i marwolaeth.