Mae gorsaf danddaearol a gafodd ei dinistrio yn yr ymosodiad brawychol yn Efrog Newydd ar 9/11 wedi’i hagor am y tro cyntaf ers hynny.

Cafodd yr orsaf ei dinistrio yn y digwyddiad 17 o flynyddoedd yn ôl.

Mae’r trên cyntaf bellach wedi cyrraedd yr orsaf i fonllef o gymeradwyaeth.

Roedd oedi cyn ailadeiladu’r orsaf wrth aros i’r tyrrau gael eu codi unwaith eto.

Costiodd yr orsaf newydd 181 miliwn o ddoleri (£140 miliwn), ac mae murlun ynddi sy’n dyfynnu o’r Datganiad Annibyniaeth.