Mae llys yn yr Aifft wedi dedfrydu 75 o bobl i farwolaeth am eu rhan mewn protest gan Islamwyr yn 2013.

Cafodd y gweddill o’r 739 o ddiffynyddion ddedfrydau o garchar yn amrywio o bum mlynedd i garchar am oes.

Roedd y brotest wedi cael ei chynnal mewn sgwâr yn un o faestrefi Cairo yn 2013 i gefnogi Mohammed Morsi, un o hoelion wyth y Frawdoliaeth Fwslimaidd.

Roedd wedi cael ei ethol yn arlywydd yr Aifft yn 2012 ond cafodd ei ddisodli flwyddyn yn ddiweddarach gan y fyddin, a oedd yn cael ei harwain ar y pryd gan yr Arlywydd Abdel-Fattah el-Sissi.

Cafodd y brotest ei chwalu gan y fyddin mewn cyrch a arweiniodd at farwolaeth o leiaf 600 o bobl.

Mae’r rhai a gafodd eu dedfrydu yn cynnwys aelodau blaenllaw o’r Frawdoliaeth Fwslimaidd. Mae disgwyl y bydd ganddyn nhw hawl i apelio.