Mae’n ymddangos na fydd un o chwaraewyr Samoa yn wynebu achos disgyblu gan drefnwyr Cwpan y Byd ar ôl iddo gyhuddo’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol o wneud cam â’r gwledydd llai.

Roedd Eliota Fuimaono-Sapolu wedi cwyno mewn negeseuon ar y wefan gymdeithasol Twitter mai dim ond pedwar diwrnod o orffwys a gafodd Samoa cyn y gêm ddydd Sul diwethaf, tra cafodd Cymru wythnos gyfan.

Yn ôl Eliota Fuimaono-Sapolu, a oedd yn eilydd ddydd Sul, mae hynny’n annheg ac yn rhagfarn yn erbyn gwledydd fel Samoa.

‘Caethwasiaeth’

Roedd wedi cymharu agwedd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol i gaethwasiaeth, yr holocost ac apartheid.

Roedd wedi herio’r Bwrdd i’w atal rhag chwarae, gan ddweud fod y Bwrdd wedi trefnu’r gêmau’n fwriadol er mwyn i Gymru ennill, fel y gwnaethon nhw o 17-10.

Fe ddaeth cefnogaeth gan negeseuwyr eraill sydd hefyd yn tynnu sylw at ffawd Namibia’n gorfod chwarae De Affrica a Chymru o fewn pedwar niwrnod.

Ymddiheuriad

Dywedodd trefnwyr Cwpan y Byd eu bod nhw wedi cwrdd â rheolwyr tîm Samoa a’u bod wedi derbyn ymddiheuriad swyddogol. Mae Undeb Rygbi Samoa wedi cael rhybudd ynglyn â gwneud sylwadau “anaddas” ar wefannau cymdeithasol yn y dyfodol. Fe gadarnhawyd na fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.