Mae gwasanaeth cyfraddau ariannol Standard & Poor wedi gostwng sgôr credyd yr Eidal heddiw, gan ddweud bod rhagolygon economi’r wlad yn wan, a bod dyled y llywodraeth yn llawer uwch na’r disgwyl.

Cyhoeddodd Standard & Poor eu bod wedi israddio sgôr credyd yr Eidal o un marc heddiw, gyda’r sgôr am y tymor byr a’r tymor hir wedi cael ei ostwng o A+/A-1+, i A/A-1.

Dywedodd y gwasanaeth mai’r prif ffactorau a ddylanwadodd ar yr israddio oedd ystyriaethau gwleidyddol a dyledion yr Eidal.

Mae rhagolygon yr asiantaeth ar gyfer sgôr credyd yr Eidal yn edrych yn negyddol iawn ar hyn o bryd, gydag amheuon ynglŷn ag effeithiolrwydd polisiau economaidd yr Eidal oherwydd gwahaniaethau barn yn y Llywodraeth.

Mae’r Eidal yn ceisio ymdopi ag ad-dalu dyledion anferth ar hyn o bryd, ac mae llywodraeth y wlad dan bwysau enfawr i gyflwyno mesurau i dorri gwariant.

Ond darogan rhagor o amser anodd y mae Standard & Poor, gan ddweud bod economi gwan yr Eidal yn debygol o danseilio effeithiolrwydd unrhyw raglen doriadau ar hyn o bryd.

Yr Eidal yn wfftio

Yn y cyfamser, mae’r Eidal wedi beirniadu Standard & Poor am israddio’u sgôr credyd, gan ddweud fod y penderfyniad yn anwybyddu’r ffaith fod Llywodraeth y wlad ar hyn o bryd yn gweithio i leihau eu dyledion ac ysgogi tyfiant yn yr economi.

Yn ôl y Llywodraeth, mae penderfyniad Standard & Poor wedi ei ysgogi gan “ystyriaethau cefndirol mewn adroddiadau papurau newydd, yn hytrach na realiti, ac mae e wedi ei lygru gan ystyriaethau gwleidyddol.”

Er bod y sgôr credyd y mae Standard & Poor yn ei roi i’r Eidal pum safle’n uwch na sgôr credyd anobeithiol, mae e dri safle yn is na’r sgôr y mae gwasanaeth cyfraddau ariannol Moody’s yn ei roi i’r wlad.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi wfftio’r honiadau bod problemau gwleidyddol yn atal ffyniant yn yr economi. Heddiw, fe gyhoeddodd swyddfa prif weinidog y wlad fod ganddyn nhw fwyafrif cyfforddus yn y Llywodraeth, a’u bod nhw wedi pasio mesurau i gael gafael mwy cadarn ar gyllid cyhoeddus yn ddiweddar, trwy gynyddu treth a thorri cyllidebau.

Dywedodd y swyddfa fod y llywodraeth yn gweithio ar becyn o fesurau er mwyn galluogi’r economi i dyfu, ac y byddai’r gyllideb wedi sefydlogi erbyn 2013.

Ond mae Standard & Poor yn cadw at eu penderfyniad, a’u barn fod problemau gwleidyddol yn amharu ar gymryd camau i adfer yr economi, gan ddweud y gallai sgôr credyd yr Eidal ostwng hyd yn oed yn is os nad yw pethau’n gwella.

Problem arall i Ewrop

Yr Eidal yw trydedd wlad fwyaf Ewrop, ac un sy’n rhy fawr i’w hachub yn ôl rhai – a’r broblem fawr yw y bydd y wlad, sydd a dyled o 120% o’i chynhyrchiant cartref gros (GDP), yn ei chael hi’n fwy drud i fenthyg arian.

Mae’r pryder eisoes wedi gyrru Banc Ganolog Ewrop i wario biliynau dros y mis diwethaf yn prynu bondiau Llywodraeth yr Eidal er mwyn ceisio gostwng cost benthyciadau’r wlad.

Y broblem sydd wedi codi yn sgil y newid sgôr gan Standard & Poor yw fod cost benthyciadau i’r wlad yn debygol o godi eto, gan ei fod yn awgrymu mwy o risg i fuddsoddwyr wrth brynu dyledion yr Eidal.