Mae miloedd o bobol wedi ymgynnull ym Mosgo i brotestio yn erbyn penderfyniad llywodraeth Rwsia i godi’r oedran ar gyfer derbyn pensiwn gwladol.

Y Comiwnyddion sydd wedi trefnu’r brotest ar ôl i ddigwyddiad tebyg ddenu 1,500 o bobol.

Mae digwyddiadau tebyg eisoes wedi’u cynnal ar draws nifer o ddinasoedd y wlad.

Cafodd y cynlluniau i godi’r oedran pensiwn eu cyflwyno ym mis Mehefin, a’u derbyn ar y darlleniad cyntaf yn y Senedd.

Ond mae’r protestiadau’n parhau, a’r Arlywydd Vladimir Putin yn dod yn llai poblogaidd o ganlyniad i’r helynt.

Cynlluniau

Wrth annerch y genedl ar y teledu yr wythnos ddiwethaf, dywedodd yr Arlywydd Vladimir Putin mai i 60 – ac nid i 63 – y byddai’r oedran yn cael ei godi ar gyfer menywod. Gall menywod 55 oed dderbyn pensiwn gwladol ar hyn o bryd.

Y bwriad yw codi’r oedran o 60 i 65 ar gyfer dynion, a’r newid hwnnw’n digwydd dros gyfnod o bum mlynedd.

Ond mae gwrthwynebwyr yn galw ar Rwsiaid ym mhob cwr o’r wlad i ddangos eu dicter – gwahoddiad sydd wedi’i dderbyn gan nifer sylweddol o bobol yn eu 20au a’u 30au y bydd y cynlluniau newydd yn effeithio arnyn nhw.

Maen nhw’n gofidio y bydd cadw pobol mewn gwaith wrth iddyn nhw heneiddio yn lleihau eu gobeithion hwythau o sicrhau swyddi.

Cafodd llywodraeth Rwsia eu beirniadu am gyflwyno’r cynlluniau newydd ar noswyl Cwpan y Byd yn y wlad mewn ymgais i gladdu’r stori.