Mae o leiaf bum ffrwydrad wedi’u clywed yn Namascus, prifddinas Syria.

Cafodd adeiladau eu siglo yn oriau man fore heddiw.

Mae lle i gredu bod y ffrwydradau wedi digwydd ger safle maes awyr milwrol Mezzeh.

Fe welodd llygad-dystion danau mawr yn yr ardal.

Mae llywodraeth Syria wedi cyhuddo Israel o gyfres o gyrchoedd ar y maes awyr yn y gorffennol.