Mae arweinydd y gwrthryfelwyr yn yr Wcráin, Aleksandr Zakharchenko, wedi cael ei ladd yn dilyn ffrwydrad.

Mae un o asiantaethau newyddion y gwrthryfelwyr sy’n ymladd yn nwyrain y wlad yn dweud bod ffrwydrad mewn caffi yn ninas Donetsk brynhawn ddoe (dydd Gwener, Awst 31).

Roedd Aleksandr Zakharchenko yn Brif Weinidog ar Weriniaeth Pobol Donetsk, sy’n cael ei chefnogi gan Rwsia.

Mae’r llywodraeth wedi bod yn brwydro yn erbyn lluoedd yr Wcráin ers 2014.

Mae mwy na 10,000 o bobol wedi cael eu lladd ers cychwyn y rhyfel.