Mae tri aelod o Lywodraeth Bwlgaria wedi ymddiswyddo, wythnos yn union ar ôl i wrthdrawiad bws yn y wlad ladd 17 o bobol.

Roedd Prif Weinidog y wlad, Boyko Borissov, wedi galw ar y gweinidogion cartref, trafnidiaeth a datblygu rhanbarthol i adael eu swyddi yn dilyn y digwyddiad ddydd Sadwrn diwethaf (Awst 25).

Erbyn hyn, mae Valentin Radev, Ivaylo Moskovki a Nikolay Nakov wedi cymryd cyfrifoldeb gwleidyddol am y digwyddiad ac wedi ymddiswyddo.

Mae angen sêl bendith y llywodraeth i ymddiswyddiadau’r tri dyn, a gafodd eu henwebu ar gyfer y swyddi gan blaid chwith-ganolig y GERB, cyn bod modd iddyn nhw adael eu swyddi.

Digwyddodd y gwrthdrawiad yr wythnos ddiwetha’, tua 30 milltir i’r gogledd o brifddinas Bwlgaria, Sofia.

Bu farw 13 o bobol yn y fan a’r lle ar ôl i’r bws a oedd yn cario twristiaid blymio i lawr rhiw. Bu farw pedwar arall yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Mae ymchwiliad ar y gweill.