Mae 17 o bobol wedi marw yn Ethiopia, ar ôl i un o hofrenyddion y fyddin blymio i’r ddaear.

Fe fu’r ddamwain yn ardal Oromia, ac mae dau blentyn ymhlith y rheiny a fu farw.

Roedd yr hofrennydd yn teithio o ddinas yn nwyrain y wlad, Dire Dawa, i gyfeiriad maes awyr yn Bishoftu, sydd tua’r de-ddwyrain o brifddinas Ethiopia, Addis Ababa.

Does dim gwybodaeth ar hyn o bryd beth oedd achos y ddamwain, ac mae’r awdurdodau’n cynnal ymchwiliad.