Mae Tsieina wedi gwadu’r awgrym gan Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump eu bod nhw wedi hacio e-byst ei wrthwynebydd yn y ras arlywyddol, Hillary Clinton.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y wlad eu bod yn gwrthwynebu unrhyw fath o ymosodiad seibr.

Cawson nhw eu cyhuddo ar dudalen Twitter Donald Trump o hacio e-byst Hillary Clinton, ond doedd e ddim wedi cynnig tystiolaeth i gefnogi’r honiadau, gan ddweud y dylai’r FBI a’r Adran Gyfiawnder gynnal ymchwiliad.

Mae swyddogion cudd-wybodaeth eisoes wedi cyhuddo Rwsia o hacio e-byst y Democratiaid yn ystod y ras arlywyddol ddwy flynedd yn ôl, gan enwi 12 o swyddogion Rwsiaidd sydd dan amheuaeth.

Mae ymchwiliad i ymyrraeth bosib gan Rwsia ar y gweill.