Mae gwledydd Prydain wedi erfyn ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i weithredu i gefnogi’r Mwslimiaid Rohingya yn Burma.
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn tybio bod tua 700,000 o Rohingya wedi ffoi o’r wlad, wrth iddyn nhw gael eu herlid gan luoedd arfog y wlad a gangiau cysylltiaedig.
A bellach mae adroddiad wedi’i gyhoeddi sy’n awgrymu bod byddin Burma wedi cynnal ymgyrch waedlyd yn erbyn y grŵp lleiafrifol – mae’n defnyddio geiriau fel ‘hil-laddiad’ a ‘throseddau yn erbyn y ddynolryw’
Yn awr, mae cynrychiolydd y Prif Weinidog, Theresa May, wedi galw am weithredu “er mwyn dynoliaeth” ac wedi cwestiynu gallu Burma i fynd i’r afael â’r honiadau o drais.
Gweithredu
“Dylai’r Cyngor ysgwyddo ei faich, ac ymateb i’r ymosodiadau ar gymuned y Rohingya,” meddai’r Arglwydd Tariq Mahmood Ahmad. “Dydy trafod a dadlau ddim yn ddigon.
“Rhaid i ni weithredu, gweithredu er mwyn dod â’r hil-laddiad ofnadwy i ben, er mwyn helpu’r ffoaduriaid sy’n dioddef, a sicrhau cyfiawnder iddyn nhw.”
Mae Sweden a’r Iseldiroedd wedi eilio’r galw, ac wedi erfyn ar y Cyngor i gyfeirio’r troseddau at y Llys Troseddau Rhyngwladol.
Ar y llaw arall, mae Tsieina wedi gwrthwynebu’r cam gan ddadlau mai awdurdodau Burma ddylai ddelio â’r mater.
Mae rhai hefyd wedi galw am weithredu yn erbyn arweinydd answyddogol y wlad, Aung San Suu Kyi.