Mae bron i 3,000 o bobol wedi marw yn Puerto Rico o fewn y chwe mis yn dilyn Corwynt Maria, yn ôl ymchwiliad annibynnol.

Mae hynny’n gwbl wahanol i’r ffigurau swyddogol sy’n awgrymu mai dim ond 64 a gafodd eu lladd yn ystod y trychineb ac mai 1,400 a fu farw edyn.

Mae’r gwaith ymchwil sydd wedi’i gynnal gan adran iechyd cyhoeddus Prifysgol George Washington yn Washington, yn dweud bod cyfanswm o 2,975 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r corwynt a darodd yr ynys yn y Caribî fis Medi y llynedd.

Cynnydd o 22%

Yn ôl yr arbenigwyr o Brifysgol George Washington, mae yna gynnydd o 22% wedi bod mewn marwolaethau yn y wlad rhwng mis Medi 2017 a Chwefror 2018, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Maen nhw’n dweud bod diffyg hyfforddiant i ddoctoriaid ynglŷn â sut i nodi marwolaethau yn ei gwneud hi’n anodd cael cyfanswm pendant.

Mae’r arbenigwyr hefyd yn dweud mai’r hen a’r tlawd oedd mewn mwya’ o beryg ar ôl i’r corwynt daro.

Beirniadu Trump

Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi dweud eu bod yn cefnogi’r bwriad i gael ffigurau llawn.

Ond fe gafodd yr Arlywydd Trump ei feirniadu am ddiffyg ymateb a chymorth pan ddigwyddodd y corwynt.

Mae Puerto Rico yn diriogaeth sy’n gysylltiedig a’r Unol Daleithiau.