Fe fydd Theresa May yn parhau ar ei thaith o Affrica heddiw ac yn ymweld â Nigeria i drafod diogelwch rhyngwladol a masnachu pobol.

Ar ôl cynnal trafodaethau â’r Arlywydd, Muhammadu Buhari, yn ninas Abuja, bydd y Prif Weinidog yn teithio i Lagos i gwrdd â phobol sydd wedi ffoi rhag caethwasiaeth fodern.

Hefyd, yn ystod ei hymweliad bydd Prif Weinidog Prydain yn addo cynnig cymorth i Nigeria a Niger yn eu hymgyrch yn erbyn masnachu pobol.

Addewid

“Heddiw rydym yn cryfhau ein partneriaeth ag awdurdodau Nigeria er mwyn dod o hyd i fasnachwyr pobol, a’u gosod gerbron llysoedd,” meddai Theresa May.

“…Ond yn ogystal â thargedu’r smyglwyr a masnachwyr pobol, sy’n cymryd mantais o bobol er budd ariannol, mae’n hollbwysig ein bod yn cefnogi’r rhai sydd wedi dioddef.

“Maen nhw wedi dioddef trawma anferthol, ac yn wynebu risg uchel o gael eu masnachu unwaith eto. Dyna ran fawr o’r cynllun cynorthwyo dw i’n ei gyhoeddi heddiw.”

Y daith

Dechreuodd Theresa May ar ei thaith ddoe ymweld â De Affrica,  ac fe fydd yn dod â’r daith i ben ddydd Iau yng Nghenia.

A Brexit yn prysur agosáu – a mwy o sôn am Brexit caled – prif ddiben ei thaith yw hyrwyddo masnach rhwng gwledydd Prydain a gwledydd Affrica.