Mae’n bosib bod llywodraethau Yemen, Saudi Arabia a’r Emiraethau Arabaidd Unedig wedi cyflawni troseddau rhyfel yn ystod y rhyfel yn Yemen.

Dyna yw barn tri arbenigwr sy’n gweithio i Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig ac sydd newydd gyhoeddi adroddiad ar y rhyfel.

Mae hwnnw’n cynnwys honiadau bod y tair llywodraeth yn euog o gyflawni troseddau sy’n mynd yn groes i hawliau dynol, a hynny wrth iddyn nhw frwydro yn erbyn gwrthryfelwyr Shia sy’n galw eu hunain yn ‘Houthis’.

Mae’r honiadau hynny’n cynnwys treisio, achosi dioddefaint a diflaniadau.

Mae’r tri arbenigwr hefyd yn nodi maint y dinistr sydd wedi’i hachosi gan gyrchoedd awyr y tair llywodraeth ar dir Yemen yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.

Eu cyngor i’r gymuned ryngwladol yw i “atal rhag darparu arfau all gael eu defnyddio yn y rhyfel.”