Mae o leiaf chwech o bobl wedi cael eu hanafu ar ôl i boteli a thân gwyllt gael eu taflu gan brotest eithafwyr asgell dde yn ninas Chemnitz yn yr Almaen.

Mae’r heddlu’n cydnabod nad oedd digon o blismyn yn y brotest neithiwr, wrth iddi ddatblygu’n ymladdfa rhwng neo-Natsiaid a gwrthwynebwyr asgell chwith.

Roedd y brotest wedi cael ei thanio gan farwolaeth Almaenwr 35 oed ddydd Sul yn dilyn ffrae dreisgar â dynion eraill.

Mae dyn 22 oed o Syria ac dyn 21 oed o Irac wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad.

Mae lluniau o’r brotest yn dangos eithafwyr asgell dde yn ceisio torri drwy’r heddlu gan wneud saliwtiau Natsïaidd.