Mae Donald Trump wedi gorchymyn i faneri America gael ei hedfan ar hanner y mast ar holl adeiladau’r llywodraeth tan ar ôl angladd y seneddwr John McCain ddydd Sul.

Mae’r Arlywydd wedi ildio i bwysau o fewn oriau i faner y Tŷ Gwyn gael ei chodi’n ôl i’w llawn uchder, gan gythruddo llu o’i gydwladwyr lai na deuddydd ar ôl marw’r seneddwr uchel ei barch.

Er ei fod wedi cydymdeimlo â’i deulu, nid yw Donald Trump wedi talu unrhyw deyrnged i’r dyn a fu’n gyson feirniadol ohono er ei fod yn aelod o’r un blaid.

Roedd John McCain yn cael ei ystyried fel arwr rhyfel gan lawer yn y wlad ar ôl iddo ddioddef pum mlynedd fel carcharor rhyfel yn Vietnam. Yn y gorffennol roedd Donald Trump wedi gwrthod â chydnabod ei fod yn arwr, gan ddweud bod gwir arwyr yn llwyddo i beidio â chael eu dal.

Mae teulu John McCain wedi gofyn i Donald Trump gadw draw o’r angladd.