Fe wnaeth saethwr danio ar dwrnament gemau fideo mewn canolfan siopa yn Florida ddoe, gan ladd dau o bobol cyn saethu ei hun yn farw.

Cafodd naw o bobl eraill eu hanafu yn y digwyddiad yn Jacksonville, ond roedd pawb ohonyn nhw mewn cyflwr sefydlog erbyn neithiwr.

Cred yr heddlu mai David Kutz, dyn 24 oed o Baltimore, oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.