Mae Arlywydd Zimbabwe, Emmerson Mnangagwa wedi tyngu llw naw mis ar ôl cael ei ethol.

Cafodd y seremoni ei chynnal gerbron torf sylweddol yn Stadiwm Chwaraeon Genedlaethol Harare wrth i’r wlad geisio symud ymlaen o ddegawdau cythryblus o dan arweiniad Robert Mugabe.

Daeth yr arlywydd newydd i rym fis Tachwedd y llynedd yn dilyn ymddiswyddiad Robert Mugabe.

Ond fe fu crynd ddadlau a chyhuddiadau gan yr wrthblaid fod canlyniad yr etholiad ym mis Gorffennaf wedi’i drefnu ymlaen llaw. Cafodd yr honiadau eu gwrthod gan y Llys Cyfansoddiadol ddydd Gwener.

Ymhlith yr heriau sy’n wynebu’r Arlywydd newydd 75 oed yw economi wan a chenedl ranedig.