Mae trydydd daeargryn, oedd yn mesur 6 ar Raddfa Richter, wedi taro Iran, gan ladd o leiaf ddau ac anafu 241 o bobol.

Roedd y ddau ddaeargryn blaenorol yn mesur 4.4 a 4.2 ar y raddfa ddydd Sadwrn, a’r rheiny ger dinas Javanrud yn nhalaith Kermanshah.

Ymhlith y rhai fu farw roedd dyn 70 oed, oedd wedi cael trawiad ar ei galon wrth i’r daeargrynfeydd daro’r wlad.

Cafodd mwy na 530 o bobol eu lladd mewn daeargryn mawr yn yr ardal fis Tachwedd y llynedd.