Mae 36 o bobol wedi cael eu lladd mewn tafarn ger prifddinas Burundi gan ddynion arfog a ddaeth ar draws y ffin o’r Congo, yn ôl swyddog o’r wlad.

Dywedodd llywodraethwr talaith Bujumbura, Jacques Minami, fod y criw wedi ymosod ar y dafarn yng ngorllewin prifddinas Burundi neithiwr.

Yn ôl y llywodraethwr, fe ddaeth y criw ar draws yr afon o’r Congo.

Dywedodd un dyn a oroesodd yr ymosodiad ond gydag anafiadau i’w stumog, Jackson Kabura, fod y dynion wedi dod i mewn i’r dafarn yn gwisgo dillad milwrol ac wedi dweud wrth bawb am orwedd ar y llawr.

“Dywedodd un ohonyn nhw, ‘lladdwch nhw gyd, lladdwch nhw gyda. Gwnewch yn siwr nad oes neb yn byw’,” meddai Jackson Kabura.

Mae’r Arlywyddd Pierre Nkurunziza wedi cyhoeddi tridie o alar ar ôl y 36 fu farw, ac wedi gohirio taith i Efrog Newydd ar gyfer cyfarfod o’r Cenhedloedd Unedig.

Daeth 16 mlynedd o ryfel cartref i ben yn swyddogol yn Burundi yn 2009, pan gafodd grwpiau gwrthrfyelgar eu gwasgaru, ond mae ymosodiadau wedi digwydd yn gyson yno hyd yn oed wedyn.