Mae tensiynau rhwng Tsieina a’r Unol Daleithiau wedi dwysáu ymhellach yn sgil penderfyniad El Salfador i gefnu ar ei pherthynas â Taiwan.

Ar un ochr mae llefarydd ar ran Tsieina wedi canmol El Salfador am wneud y “penderfyniad iawn” ac wedi cyhuddo’r Unol Daleithiau o rwystro gwledydd eraill rhag cael perthynas â nhw.

“Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn ein gwrthwynebu, ac yn atal gwledydd eraill rhag sefydlu perthynas normal gyda Tsieina,” meddai’r llefarydd.

Ar yr ochr arall, mae llysgennad yr Unol Daleithiau yn El Salvador wedi dweud bod eu penderfyniad yn “codi pryderon am sawl rheswm”.

Cefndir

Ers degawdau bellach mae Tsieina wedi dadlau mai talaith o’i gwlad hwythau yw Taiwan, ac wedi gwrthwynebu ymgeision i gydnabod yr ynys yn wladwriaeth.

Ond er gwaetha’ hynny, mae 17 o wledydd ledled y byd wedi llwyddo cynnal perthynas diplomyddol â Taiwan – a thrwy wneud hynny, cydnabod bodolaeth y wlad.

Roedd El Salvador ymhlith y gwledydd yma yn y gorffennol, ond bellach mae’r wlad wedi penderfynu cefnu ar y berthynas honno, ac ochri gyda Tsieina yn lle.

Er nad yw’r Unol Daleithiau yn cynnal perthynas diplomyddol â Taiwan, mae Tsieina yn pryderu eu bod yn ceisio annog gwledydd i gadw eu perthynas â’r ynys.