Mae glaw trwm wedi achosi llifogydd mawr yn ne’r Eidal, ac mae deg o heicwyr wedi’u lladd tra’n cerdded yn yr ardal.
Mae’r awdurdodau yn dweud fod cymaint â 23 o bobol wedi cael eu hachub o geudwll yn Raganello, a’u bod yn cynnwys bachgen deng mlwydd oed a oedd yn diodde’ o effeithiau’r oerfel.
Mae saith o bobol hefyd wedi cael eu cludo i’r ysbyty.
Dyw hi ddim yn glir eto faint o bobol sy’n dal i fod ar goll, ond roedd yna 36 o gerddwyr yn rhan o’r ddau grwp oedd yn gwneud taith 12km.
Mae lluniau teledu yn dangos achubwyr yn eu gollwng eu hunain i lawr wyneb serth y graig er mwyn cyrraedd at yr heicwyr.