Mae ynys Lombok yn Indonesia wedi cael ei hysgwyd gan ddau ddaeargryn nerthol, yn dilyn wythnosau o ddirgryniadau sydd wedi lladd cannoedd o bobol.

Roedd daeargryn yn mesur 6.3 wedi achosi tirlithriadau ddydd Sul gan ladd un person.

Yn ddiweddarach roedd daeargryn arall yn mesur 7.0 wedi taro’r ynys.

Roedd daeargryn nerthol, yn mesur 6.9, ar 5 Awst wedi lladd mwy na 460 o bobol.

Cafodd cartrefi, mosgiau a busnesau eu difrodi a bu’n rhaid i filoedd o bobol ffoi o’u cartrefi.

Roedd y daeargryn cyntaf ar 29 Gorffennaf yn mesur 6.4 ac wedi achosi tirlithriadau gan ladd o leiaf 16 o bobol.