Mae lluoedd llywodraeth Yemen wedi lladd o leia’ 26 o brotestwyr ac anafu dwsinau yn rhagor ym mhrifddinas y wlad ar ôl i’r lluoedd ddechrau saethu at bobol oedd yn galw am ddisodli arweinydd y wlad.

Yn ôl nifer o dystion a swyddogion meddygol, roedd dros 100,000 o brotestwyr wedi ymgasglu yn y brifddinas Sanaa erbyn neithiwr, wrth i’r tensiynnau rhwng y llywodreath a’i gwrthwynebwyr gynyddu.

Roedd y gwrthwynebwyr wedi ymgasglu tu allan i swyddfeydd teledu’r wladwriaeth a swyddfeydd y llywodraeth, ond fe ddechreuodd lluoedd y llywodraeth saethu tuag at y tyrfaoedd pan ddechreuwyd gorymdeithio tuag at y palas arlywyddol.

Yn ôl tystion, roedd dynion â gynnau wedi eu lleoli ar doeon ar hyd y strydoedd, gyda nifer o gefnogwyr yr Arlywydd wedi eu cuddio ymhlith y tyrfaeodd ar y stryd yn cario gynnau, cleddyfau a phastynnau.

Dywedodd un meddyg, Tarek Noaman, sy’n gweithio mewn ysbyty yn Sanaa, fod 26 o brotestwyr wedi eu saethu’n farw a dros 200 wedi eu hanafu wedi i luoedd y llywodraeth ddechrau saethu.

“Mae rhan fwyaf yr anafiadau i’r frest, yr ysgwyddau, y pen a’r wyneb,” meddai, a dywedodd fod 25 o’r rhai a anafwyd mewn cyflwr difrifol.

Roedd y meddyg hefyd yn cyhuddo lluoedd diogelwch y llywodraeth o atal ambiwlansau rhag symud y bobol ag anafiadau o ganol y brotest, ac o’u hatal rhag casglu cyrff y rhai oedd wedi eu lladd.

Y gwrthdaro neithiwr, mewn prif ddinas wedi ei boddi gan dywyllwch ar ôl i’r cyflenwar trydan gael ei dorri, oedd y mwyaf gwaedlyd mewn misoedd.

Gohirio’r newid

Mae’r protestwyr yn galw am ddisodli arweinydd hir-dymor y wlad, yr Arlywydd Ali Abdullah Saleh, sydd ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth feddygol ar draws y ffin yn Saudi Arabia ar ôl ymosodiad difrifol arno yn ei balas ar 3 Mehefin eleni.

Daeth yr ymosodiad hwnnw â hyder newydd i’r protestwyr y gallai’r Arlywydd ildio’i rym yn weddol cyflym, ond ers mis Mehefin mae’n ymddangos bod yr arlywydd yn fwy penderfynnol nag erioed i ddal gafael ar y grym sydd ganddo ers 1978.

Ond mae’r protestio wedi dwyshau yn ystod yr wythnos ddiwethaf, wedi i’r newyddion gyrraedd fod yr Arlywydd wedi gofyn i’w ddirprwy, Abed Rabbo Mansour Hadi, drefnu dêl gwell iddo er mwyn trosglwyddo grym.

Mae’n gobeithio cael cytundeb, wedi ei chefnogi gan America, lle y gall ildio’i rym yn gyfnewid am imiwnedd rhag cael ei erlyn wedi iddo adael yr Arlywyddiaeth.

Ond mae’r Arlywydd Saleh eisioes wedi gwrthod arwyddo’r ddêl deirgwaith, ac mae llawer o’r protestwyr yn credu bod y trafod diweddaraf yn rhan o gynllwyn i ohirio’r newid.