Mae adroddiadau fod prif wneuthurwr bomiau al-Qaida – a oedd yn gyfrifol am y cynllwyn Diwrnod Dolig yn 2009 i ffrwydro awyren uwchben dinas Detroit – wedi cael ei ladd mewn ymosodiad drôn gan America yn Yemen.

Mae marwolaeth Ibrahim al-Asiri yn cael ei hystyried yn ergyd i allu’r grwp i dargedu’r Gorllewin.

Mae hefyd yn rhoi pwysau ar al-Qaeda, wedi iddyn nhw golli nifer o’u harweinwyr a’u henwau mawr mewn ymosodiadau drôn dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r awdurdodau yn Yemen wedi cadarnhau marwolaeth Ibrahim al-Asiri, 36, a’i fod wedi’i ladd, ynghyd â “dau neu bedwar o’i gyd-aelodau” yn ardal Marib yn nwyrain y wlad.

Roedd yn sefyll wrth ymyl ei gar pan ddigwyddodd ymosodiad America.

Yn hytrach na chanu marwnadau iddo, mar al-Qaida yn mynnu eu bod yn chwilio am y “sbeis” a ddywedodd wrth yr Unol Daleithiau lle’r oedd Ibrahim al-Asiri ar y pryd.