Mae daeargryn nerthol wedi ysgwyd Costa Rica ger y ffin â Panama, gan achosi peth difrod a llanast, a thorri cyflenwad trydan i rai ardaloedd.
Mae’r awdurdodau yn dweud fod y dirgryniad yn mesur 6.0 ar y raddfa, a bod ei ganolbwynt rhyw 12 milltir o dan wyneb y ddaear ac i’r.gogledd o dref Golfito.
Does yna ddim adroddiadau, hyd yn hyn, o unrhyw anafiadau na difrod sylweddol.
Mae gorsaf deledu Channel 9 yn dweud fod Puerto Jimenez heb drydan, a bod rhai polion teligraff wedi cwympo.
Mae yna un ôl-gryniad wedi ei deimlo yn yr ardal, a hwnnw yn mesur 4.9.
Does yna ddim peryg o tswnami, meddai’r.asiantaeth yn y wlad sy’n monitro digwyddiadau.
Yn Panana, fe gafodd y daeargryn ei deimlo yn nhaleithiau Chiriqui a Bocas del Toro, sydd ar y ffin â Costa Rica.