Mae bws, a oedd ar ei ffordd o Stockholm i Berlin, wedi dod oddi ar y ffordd yng ngogledd-ddwyrain yr Almaen, cyn troi drosodd.

Mae chwech o bobol wedi’u hanafu’n ddifrifol, a deg arall yn diodde’ o anafiadau llai.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 6.30yb heddiw (dydd Gwener, Awst 17) yn Linstow, ger Rostock, ar draffordd yr A19.

Yn ôl FlixBus, y prif gwmni sy’n gyfrifol am fysus teithiau hir yr Almaen, roedd y bws yn mynd o Stockholm i Berlin trwy Copenhagen, gyda 63 o deithwyr a dau yrrwr ar ei bwrdd.

Mae fferis o Sgandinafia yn cyrraedd yr Almaen yn Rostock.

Dyw hi ddim yn glir eto pam i’r bws adael y ffordd. Doedd yr un cerbyd arall yn rhan o’r digwyddiad.