Mae’r Fatican wedi mynegi siom tuag at yr achosion o gam-drin rhyw a fu mewn eglwysi Catholig yn yr Unol Daleithiau.

Yr wythnos ddiwetha’, fe gafodd adroddiad ei gyhoeddi gan yr uchel lys yn yr Unol Daleithiau sy’n nodi bod dros fil o blant wedi cael ei cam-drin yn rhywiol gan gannoedd o glerigwyr mewn chwe eglwys yn Pennsylvania.

Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran y prif sefydliad Catholig bod y “gweithredoedd hynny yn frad ar ymddiriedaeth y dioddefwyr hynny a gafodd eu ffydd a’u hurddas wedi’u dwyn oddi wrthyn nhw.”

Mae hefyd yn dweud bod angen i’r Eglwys Gatholig ddysgu o wersi’r gorffennol, a bod yna atebolrwydd i’r dioddefwyr a’r rheiny a gyflawnodd y gweithredoedd.

Dim gair o’r Pab

Dyw’r datganiad ei hun ddim yn cynnwys dyfyniadau gan y Pab, nac yn cyfeirio at y rheiny sy’n galw am ddiswyddiad Cardinal Donald Wuerl, Archesgob Washington.

Mae’r adroddiad, a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos ddiwetha’, yn cyhuddo’r archesgob o amddiffyn rhai o’r drwgweithredwyr tra oedd yn Esgob Pittsburgh, Pennsylvania.

Mae’r Pab yn ddiweddar wedi derbyn ymddiswyddiad cyn-Archesgob Washinton, Theodore McCarrick, o deitl cardinal, a hynny yn sgil cyhuddiadau yn ei erbyn o gamymddwyn yn rhywiol.