Mae timau achub wedi defnyddio hofrenyddion a chychod i symud cannoedd o bobl sydd wedi dringo ar ben toeau eu cartrefi er mwyn dianc rhag llifogydd difrifol yn nhalaith Kerala yn ne India.

Ar ôl i’r glaw trwm ddod i ben ddydd Gwener, mae miloedd o weithwyr achub wedi bod yn ceisio symud pobl i 1,200 o wersylloedd sydd wedi cael eu sefydlu i roi lloches i fwy na 150,000 o bobl.

Roedd glaw trwm dros yr wyth diwrnod diwethaf wedi achosi llifogydd a thirlithriadau. Mae nifer o gartrefi wedi’u difrodi a phontydd wedi cwympo gan amharu ar wasanaethau awyr a threnau yn nhalaith Kerala, sy’n ardal boblogaidd gydag ymwelwyr.

Yn ôl ffigurau’r wladwriaeth, mae 164 o bobl wedi marw o ganlyniad i’r llifogydd ers 8 Awst.