Mae canwr pop a oedd yn wrthwynebydd amlwg o lywodraeth Uganda, am orfod mynd gerbron llys militaraidd oherwydd ei ran honedig mewn gwrthdaro pan yr ymosodwyd ar gar yr arlywydd gan bobol yn taflu cerrig.

Daeth cadarnhad gan y llywodraeth y bydd Kyagulanyi Ssentamu, gwleidydd sy’n cael ei adnabod fel Bobi Wine pan mae ar lwyfan, yn wynebu llys oherwydd ei fod â gwn yn ei feddiant pan gafodd ei arestio yn nhref Arua.

Roedd Kyagulanyi Ssentamu a gwleidyddion erall, yn cynnwys yr arlywydd Yoweri Museveni, yn ymgyrchu mewn is-etholiad i ddewis Aelodau Seneddol pan gafodd ei yrrwr ei saethu’n farw.

Mae gwraig Kyagulanyi Ssentamu yn mynnu nad yw ei gwr hyd yn oed yn gwybod sut i drin gwn, ac mae actifyddion yn mynnu y dylai gael ei ryddhau.

Mae’r awdurdodau yn addo y bydd Kyagulanyi Ssentamu ac eraill yn cael eu “cosbi yn unol â’r gyfraith”.