Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am fom hunanladdwr a dargedodd ardal Shia ym mrifddinas Afghanistan, gan ladd 34 o fyfyrwyr.

Dywedodd IS, drwy ei asiantaeth newyddion cysylltiedig, fod y bomiwr, a ddisgrifwyd fel “ein brawd a cheisiwr-merthyrdod Abdul Raouf al-Khorasani” wedi cyflawni’r bomio yn y brifddinas, Kabul.

Mae gweinyddiaeth iechyd Afghanistan wedi cyhoeddi rhestr ddiwygiedig o’r anafiedig, yn datgan fod 34 o fyfyrwyr wedi eu lladd a 57 wedi eu hanafu.

Roedd y digwyddiad wedi targedu adeilad ble roedd myfyrwyr yn paratoi i eistedd arholidadau mynediad i brifysgol.