Mae Seland Newydd wedi gwahardd y rhan fwyaf o dramorwyr rhag prynu tai yno mewn ymgais i daclo cynnydd mewn prisiau tai.

Roedd y farchnad dai yn arfer bod yn agored i fuddsoddwyr ledled y byd, ond ddydd Mercher (Awst 15) fe basiodd y llywodraeth ddeddfwriaeth sy’n caniatau dim ond preswylwyr Seland Newydd i brynu tai yno.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae yna lawer o sôn am dramorwyr cyfoethog o Silicon Valley a llefydd eraill yn prynu ffermydd ar yr ynysoedd fel llefydd i ddianc iddyn nhw ymhell o sŵn y byd.

Mae yna straeon hefyd am brynwyr cyfoethog Tsieiniaidd yn talu rhagor o arian na thrigolion Seland Newydd am dai yn y brifddinas, Auckland.

Dengys ystadegau fod oddeutu 3% o dai Seland Newydd yn cael eu gwerthu i dramorwyr, ond fod y nifer yn codi i 5% yn rhanbarth ddeniadol Queenstown a 22% yng nghanol Auckland.

Y mis diwethaf, dywedodd cyfarwyddwyr Y Gronfa Ariannol Ryngwladol eu bod yn annog Seland Newydd i ailystyried y gwaharddiad, gan eu bod nhw o’r farn y byddai yn annhebygol o wella fforddiadwyedd tai.

Ond mae’r llywodraeth yn dweud nad oes yna unrhyw amheuaeth fod tramorwyr yn gyrru prisiau’n uwch.