Mae stad o argyfwng wedi cael ei gyhoeddi yn yr Eidal, ar ôl i bont yn ninas Genoa ddymchwel a lladd 39 o bobol.

Yn ôl Prif Weinidog y wlad, Giuseppe Conte, ni fydd ei lywodraeth yn aros i erlynwyr gwblhau’r gwaith o drosglwyddo’r gofal am briffyrdd yr Eidal oddi ar gwmni preifat.

Bydd y Llywodraeth yn chwilio am gwmni arall a fydd yn fodlon cymryd yr awenau, meddai wedyn, gan ychwanegu bod angen rheolau “mwy caeth” o ran cynnal a chadw.

Pryderon

Yn y cyfamser, mae Gweinidog Cartref yr Eidal wedi cadarnhau bod 39 o bobol wedi marw ac 16 wedi’u hanafu yn dilyn y drychineb ddydd Mawrth (Awst 14).

Ond mae wedi gwrthod dweud faint o bobol sy’n parhau i fod yn sownd o dan weddillion y bont 51 oed, lle mae 1,000 o swyddogion achub yn archwilio’r safle.

Mae pryderon ynglŷn â’r darn o’r bont sy’n dal i sefyll, ac mae’r awdurdodau wedi gorchymyn tua 630 o bobol i adael eu cartrefi mewn fflatiau gerllaw.

Bydd adeiladu pont newydd yn golygu dymchwel y fflatiau hyn, yn ôl y gweinidog sy’n gyfrifol am isadeiledd yr Eidal, Danilo Toninelli.