Mae ymosodiad gan y Taliban ar ganolfannau’r fyddin yng ngogledd Afghanistan, wedi lladd 30 o filwyr a phlismyn.

Mae’r awdurdodau yn nhalaith Baghlan yn dweud fod gwrthryfelwyr wedi ymosod ar checkpoints yn hwyr nos Fawrth (Awst 14).

Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hwnnw, tra bod pedwar plismon wedi cael eu lladd mewn digwyddiad arall yn nhalaith Zabul.

Yn y cyfamser, mae pobol gyffredin wedi bod yn mentro allan o’u tai yn ofalus yn ninas Ghazni, lle bu ymosodiad arall gan y Taliban ddydd Gwener diwethaf.

Mae lluoedd NATO a’r Unol Daleithiau wedi bod yn cynnal cyrchoedd o’r awyr ar nifer o dargedau, wrth iddyn nhw geisio adennill rheolaeth o Ghazni, sydd tua 75 milltir o’r brifddinas, Kabul, a lle mae 270,000 o bobol yn byw.